|
Y Pwyllgor Menter a Busnes |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
09:04 - 11:00 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Byron Davies Alun Ffred Jones Eluned Parrott Gwyn R Price (yn lle Keith Davies) David Rees Ken Skates Dafydd Elis-Thomas Jenny Rathbone (yn lle Julie James) Joyce Watson |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol , Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
|
||||
1. Sesiwn friffio anffurfiol ar y Gyllideb Ddrafft
1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio anffurfiol ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC, yr oedd Gwyn Price AC yn dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Julie James AC, yr oedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo ar ei rhan.
3. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau i:
· roi’r ffigurau diweddaraf ar nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a’u cymharu hefyd â’r ffigurau ar gyfer Rhanbarthau Lloegr;
· darparu nodyn ar yr adnoddau a’r canlyniadau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sy’n astudio gyda’r coleg;
· darparu nodyn ar ba gynlluniau peilot sy’n treialu’r model cymorth ar hyn o bryd lle mae ‘person a enwir’ ar gael i blant y mae risg iddynt ddod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan gynnwys plant a waharddwyd o’r ysgol;
· darparu nodyn yn amlinellu pa raglenni cyflogaeth a sgiliau y bydd y gostyngiad o £3.3 miliwn yn y gyllideb cyflogaeth a sgiliau yn effeithio arnynt fwyaf;
· darparu ffigurau ar ba gyfran o gyllideb Grantiau Dysgu’r Cynulliad a neilltuir i gymorth rhan amser o’i gymharu â chymorth llawn amser.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5. Ystyried y dystiolaeth a'r adroddiad ar y gyllideb
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.